 "Rhys Davies's characters all walk straight out of the page and hold one with an almost physical attraction." The Times Crynodeb:
Mae The Withered Root yn adrodd hanes bywyd cythryblus Reuben Daniels, a fagwyd mewn cwm diwydiannol yn ne Cymru ynghanol y diwylliant Anghydffurfiol. Yma gorwedd ei ddinistr ef a dinistr ei bobl, oherwydd y mae The Withered Root llawn mor wrthwynebus i Anghydffurfiaeth Gymreig â My People (Caradoc Evans), er bod hynny am resymau gwahanol. Mae nwydau’r diwygiad yn ddim mwy nag allanfa wrthnysig i rywioldeb sydd ond yn rhy ddynol y mae diwylliant y capel wedi’i ormesu, ac yna’n bwydo oddi ar y ffrwyth gwyrdroëdig.
Nodiadau bywgraffyddol:
Roedd Rhys Davies (1901–1978) yn un o’r awduron mwyaf toreithiog ac anarferol i ddod allan o gymoedd diwydiannol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Fe’i ganed yng Nghwm Clydach, cwm llai oddi ar y Rhondda yn codi o Donypandy, ef oedd y pedwerydd plentyn i ŵr cadw siop groser bach ac athrawes heb dystysgrif. Gwrthododd addysg gonfensiynol a gadawodd y cwm, a oedd am fod yn sylfaen llawer o’i waith, yn bedair ar bymtheg, gan symud i Lundain, a fu ei gartref hyd nes ei farw. Yn gynnar yn ei yrfa lenyddol, teithiodd i dde Ffrainc lle daeth D. H. Lawrence yn gyfeillgar ag ef, ac arhosodd yntau’n ddylanwad ar ei waith. Er bod rhyw yn brif benderfynyn dros berthynas ddynol i Davies, gwahaniaethodd yn radical oddi wrth Lawrence, oherwydd gwelodd y frwydr dros bŵer yn hytrach na chariad, naill yn rhywiol neu’n emosiynol, fel y ffactor hanfodol. Roedd corff helaeth ei weithiau ym maes y nofel, ond cafodd ei sylw mwyaf ym maes y stori fer. Gan nad oedd llawer o ragflaenwyr, yn Gymraeg neu yn Saesneg, cafodd ei ysbrydoliaeth a modelau o feistri Ewrop a Rwsia dramor; Chekhov a Maupassant, Tolstoy a Flaubert. Roedd ei olwg o ddynoliaeth yn Glasurol o ran ei fod yn gweld pobl yn derbyn eu cymhelliant yn union yr un ffordd, boed hwy yn Israel y Beibl, Gwlad Groeg Hynafol neu Gwm Rhondda. Roedd llawer o’i waith yn ymwneud â menywod, a fyddai bron yn ddieithriad yn ymddangos yn fuddugoliaethus o unrhyw wrthdaro. Roedd yn ddyn hoyw ar adeg pan roedd hi’n anodd byw’n agored gyda’i rywioldeb. Bu’n byw ar ei ben ei hun am y rhan fwyaf o’i fywyd ac osgôdd berthynas a oedd yn symbol o ymrwymiad o’i ran ef. Roedd ei gyfeillgarwch agosaf gyda menywod. Osgôdd unrhyw gliciau neu grwpiau llenyddol, er fe allai fod wedi ymuno â sawl un, ac nid oedd ganddo unrhyw ddaliadau crefyddol neu wleidyddol amlwg. Roedd yn byw i raddau dwys, dros ei gelfyddyd.
Rhagflas byr Hugh Daniels at last got married, and immediately after the ceremony in Pisgah Chapel, Martha and he settled down to life in the little cottage that was part of Martha’s legacy from her deceased father – a dwelling in one of those naked rows, chiefly occupied by colliers, that rise, shrouded in grey coal-dust, on the Valley hills.
Darllenwch
y rhagair cyfan i The Withered Root YMA... Mwy o wybodaeth a sylwadau:

|