 "Black Parade (1935) is strong because... it includes the many-sided turbulence, the incoherence and contradictions, which the more available stereotypes of the history exclude. It can be properly contrasted with... Richard Llewellyn's How Green Was My Valley (1939)... widely and properly seen as the export version of the Welsh industrial experience." Raymond Williams
Crynodeb:
Mae un o ferched yr iard frics ym Merthyr Oes Fictoria, Saran, yn gwylio’r byd yn teithio heibio i’w rhiniog ar lannau Nant Morlais ddrewllyd sy’n berwi o lygod mawr: y rhai fu’n dathlu rhialtwch y ffair; y rhai fu yn y cwrdd, a’r prosesiwn angladdau. Dyw hi byth yn colli trip i un o theatrau pren y dref, er gwaethaf ei bywyd sy’n cael ei rheoli gan hwter pump y bore, streiciau yn y pwll, gwleidyddiaeth a’r Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cymryd gymaint o’i phlant ymaith. Bydd ei Glyn hi’n gweithio tair shifft yn olynol ar gyfer arian cwrw; ei brawd Harry yw meddwyn mwyaf adnabyddus yr ardal hyd nes iddo gael ei ‘achub’. Mae’r dref yn newid a thyfu ond mae Saran yn dal i fod yno ar gyfer Glyn, a Harry ac ar gyfer ei phlant a’i hwyrion.
Yn ei nofel o 1935, Black Parade, mae’r awdur, y milwr a’r gweithredwr gwleidyddol Jack Jones yn creu darlun hynod afreolus, clir ac ansentimental o fywyd ym Merthyr wrth i’w dref enedigol ruthro’n bendramwnwgl i mewn i’r ugeinfed ganrif.
Nodiadau bywgraffyddol:
Ganed Jack Jones ym Merthyr Tudful ym 1884. Awdur nifer o nofelau, dramâu a chyfrolau hunan fywgraffyddol, derbyniodd sawl gwobr am ei gyfraniad anrhydeddus i lenyddiaeth Cymru. Fe’i hetholwyd yn llywydd cyntaf adran Saesneg Yr Academi Gymreig. Bu farw Jack Jones ym 1970.
Rhagflas byr Merthyr Tydfil for Jack Jones was a stern and forbidding father, a nurturing mother, lover, friend and mortal enemy. His native town, built on its four great ironworks, forged his talent and purged his verbose and cumbersome prose of its impurities. The pressures of reliving his life there ¬– not to mention the heroic efforts of his copy editors – tempered a style of steel-hard simplicity fit for the elemental story of his people pitted against the black cruelty of nature and the red-clawed savagery of Man.
Darllenwch
y rhagair cyfan i Black Parade YMA... Mwy o wybodaeth a sylwadau:
I’w gyhoeddi ar 1 Hydref 2009.

|