DATGANIAD I’R WASG

 

PENODI CYHOEDDWR AR GYFER CAM NESAF

CYFRES LIBRARY OF WALES

18 Mai 2011

 

 

Ar ôl pum mlynedd llwyddiannus yn hanes y cynllun nodedig, Library of Wales, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dyfarnu tendr i gwmni Parthian i gyhoeddi’r cnwd nesaf o glasuron o Gymru yn yr iaith Saesneg.

 

Mae'r cynllun Library of Wales yn gynllun o gryn bwys a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Sicrhawyd eisoes bod 29 o glasuron Saesneg o Gymru yn ôl mewn print, gan roi cyfle i’r genedl ymgyfarwyddo o’r newydd â’i threftadaeth lenyddol gyfoethog.  Llyfrau wedi eu hanelu at y darllenydd cyffredin ydynt bob un, a’r tri theitl nesaf yn y gyfres, i’w cyhoeddi ym mis Hydref 2011, fydd The Volunteers gan Raymond Williams, All Things Betray Thee gan Gwyn Thomas a Goodbye, Twentieth Century gan Dannie Abse.

 

Estynnodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, ei longyfarchiadau i gwmni Parthian.  ‘Mae’n dda gweld,’ meddai ‘bod Parthian,y cyhoeddwr a fu’n gyfrifol am sefydlu Library of Wales, yn bwriadu ymestyn a datblygu’r gyfres allweddol hon.’

 

Ychwanegodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Parthian, ‘Mae yna nifer o deitlau newydd, hynod ddiddorol ar y gweill – llyfrau gan Dannie Abse, Brenda Chamberlain, Raymond Williams a James Hanley – a’r rhain eto’n tanlinellu ystod eang a bywiogrwydd ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.’

 

Mae’r gyfres wedi denu sylw nifer o gefnogwyr o fri.  Cafodd yr awdur enwog, Philip Pullman ei swyno gan y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Library of Wales, sef Make Room for the Jester gan Stead Jones, awdur o ogledd Cymru.  Bydd Philip Pullman yn ymuno â Golygydd y Gyfres, yr Athro Dai Smith, ynghyd â Richard Davies a Jon Gower, mewn sgwrs yng Ngŵyl y Gelli ddydd Sul 5 Mehefin am 11.30 y bore yn yr Elmley Foundation Theatre.

Translate Into...

English French German Italian Portuguese Russian Spanish